Evan EdgarWILLIAMS17eg Medi 2025. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn ei gartref Gwên Lleyn, Llannor, Pwllheli yn ei ganfed blwyddyn. Priod ffyddlon Elizabeth, tad cariadus Arwel a Dylan, taid caredig Dylan, Sean, Tomos ac Ifan, brawd annwyl ei ddiweddar frodyr a chwiorydd, brawd yng nghyfraith ac ewythr hoffus a ffrind i lawer.
Gwasanaeth preifat i'r teulu yn y cartref dydd Gwener, 3ydd Hydref gan ddilyn yn gyhoeddus ar lan y bedd ym Mynwent Pentreuchaf am oddeutu 2.15 o'r gloch.
Blodau teulu agosaf yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Gymdeithas y Deillion trwy law'r ymgymerwr. Ifan Hughes Ymgymerwr Angladdau Ceiri Garage Llanaelhaearn Ffôn: 01758 750238.
Keep me informed of updates